Pen-blwydd Hapus Kate!
Mae un o drigolion enwocaf Ynys Mon yn dathlu ei phen-blwydd yn 29 heddiw...
Mae disgwyl i Kate Middleton ddathlu mewn parti bach i deulu a ffrindiau.
Ymhen 4 mis fe fydd hi'n priodi'r Tywysog William mewn seremoni yn Llundain. Fe gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf mai'r Archesgob Rowan Williams - Cymro Cymraeg - fydd yn eu priodi nhw ar Ebrill 29.
Tra bydd ei wraig yn 29 ar ddydd eu priodas, bydd y Tywysog William yn 28 - mae e'n dathlu ei ben-blwydd ar Mehefin 21.
Ar ol eu mis mel mae'r ddau yn bwriadu dychwelyd i Ynys Mon i fyw fel fod y Tywysog yn medru parhau i weithio fel peilot hofrenyddion gyda'r awyrlu yn Y Fali.
Meddai Selwyn Williams , Cadeirydd Cyngor Mon:
"Mae'n wych eu bod nhw'n mwynhau prydferthwch, etifeddiaeth a diwylliant Ynys Mon a'u bod nhw am fod yn rhan ohono."
"Mae'n newyddion da iawn i'r ynys yn nhermau cynyddu ein proffil fel cyrchfan i dwristiaid. Rwy'n gobeithio y bydd yn dod yn le y mae'n rhaid i bobl ymweld a bydd pawb yn gweld beth sydd gennym ni i'w gynnig."
Cliciwch i weld mwy am y Tywysog William a Kate Middleton...
Oriel Luniau o'u perthynas ar hyd y blynyddoedd...
Pa selebs sy'n gobeithio derbyn gwahoddiad?...