Cyfrifiadur Sy'n Darllen Eich Emosiynau
Mae'n swnio fel rhywbeth allan o ffilm sci-fi ond mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor gam yn agosach at greu cyfrifiadur sy'n medru synhwyro'n emosiynau ni...
Mae'r adran gyfrifiadureg yn chwilio am gyd-weithwyr ym myd busnes a diwydiant i'w helpu nhw ddatblygu'r ddyfais...
Maen nhw'n honni y gallai weddnewid y profiad o chwarae gemau cyfrifiadurol yn ogystal a helpu hyfforddi pobl sy'n gweithio mewn amgylchiadau straenus fel milwyr.
Thomas Christie, sy'n gwneud doethuriaeth mewn Cyfrifiadureg, rhoddodd y peiriant at ei gilydd. Fuodd e'n esbonio wrth Heart sut mae'n gweithio:
"Be da ni wedi creu yw system fach gan ddefnyddio neural headsets sy'n darllen yr ymennydd, ac mae na ddyfais arall sy'n synhwyro pan da ni'n chwysu ac yn cymryd y pyls."
"'Sa fo o ddefnydd mawr i'r byd gemau cyfrifiadur. 'Sa'r gem ei hyn yn medru dewis sut fyddai pethau'n symud ymlaen (drwy ddefnyddio'r teclyn) - os da chi'n teimlo ofn sa fo eisiau'ch gwneud chi fwy o ofn ac felly'n newid y gem i wneud hynny."
Bellach mae Thomas yn gobeithio bydd y teclyn yn dod i sylw datblygwyr ym myd busnes.
"Fyddai'n beth da i'r ardal ac i Brifysgol Bangor," meddai.